Newyddion

From Clwb Nofio Pwllheli

Jump to: navigation, search

Bydd sesiwn nos Fawrth yn cael ei gynaal rhwng 18:00 ac 19:00 i aelodau sydd yn cymryd rhan mewn galas yn unig.

Bydd gala fewnol yn cael ei chynnal heno, Medi 18 2009.

Yn unol a'r drefn newydd, bydd y rasus yn cynnwys ras 100m i'r nofwyr hyn, sydd yn golygu y bydd gala iddynt ar ddwy nos Wener yn olynol. Heno, byddwn yn dechrau cynhesu i fyny am 18:15, a byddwn yn nofio broga a pili pala.

Dydd Gwener, Medi 25, cynhesu i fyny eto 18:15, ac yna nofio pob stroc - buasem yn ddiolchgar petaech yn nofio pob ras.

Byddwn hefyd yn cofnodi'r amseroedd - rydym angen gwirfoddolwyr i gadw'r amseroedd!!Italic text


Mae crysau T newydd ar gael yn Llyn Sports am £5.00.

New T shirts T shirts with our logo will be on sale from Llyn sports £5.00


Diolch hefyd i'r rhieni a fynychodd y cwrs cadw amser: Clive Moore,Llinos Merks, Andrew Rosewarne and Karen Davies.

Os y cewch lythyr yn eich gwadd i gala, gadewch i ni wybod yn syth os ydych yn gallu dod neu ddim. Hefyd, gadewch i ni wybod pan mae eich plentyn yn cael ei'benlwydd/phenblwydd er mwyn iddynt rasio yn y grwp priodol.



Dyddiadau Galas Porthmadog 6ed o Ragfyr 2008, 13:00 Harlech 31ain o Ionawr 2009, 13:00 Tywyn 7fed o Fawrth, 2009, 15:00 Pwllheli 28ain o Fawth 2009, 13:00 Bangor 9fed o Fawrth 2009, 15:30



Mae'r gala nesaf yn cael ei chynnal Dydd Sadwrn, Mawrth 28 ym Mhwllheli am 13:00. Bydd y nofwyr yn cael llythyr yn ystod yr wythnos.

Gala Tywyn Llawer o ddiolch i bawb a drafeiliodd i Dywyn! Fe ddaethom yn ail efo 131 o bwyntiau. Ni gymherwyd rhan mewn 4 ras, cael ein diarddel mewn 3 ras, ac roeddem yn fyr o 3 nofwyr.


Gala Harlech

Unwaith eto, diolch i bawb am ddod i Harlech! Pedwerydd oeddam heddiw efo 114 o bwyntiau. Ni gymherwyd rhan mewn 7 o rasus, ac roeddem yn fyr o 5 o nofwyr - ond dim ond o un ras y cawson ein diarddel! Llongyfarchiadau hefyd i bawb a fynychodd y gala ym Mhorthmadog - fe oeddym yn llwyddianus iawn yn dod yn drydydd ar y 6ed o Ragfyr er gwaethaf bod yn fyr o 4 nofiwr a chael ein diarddel o 1 ras! Fe wnaeth pawb ei orau, a diolch i'r holl blant a'u rhieni am eu cydweithrediad.

Diolch o galon i bawb a fuodd yn cynorthwyo yn ein gala gyntaf. Fe aeth un neu ddau o bethau o chwith, ond yn gyffredinol, roedd ynllwyddianus iawn. Roedd y nofwyr i weld yn mwynhau eu hunain yn enfawr.


Ar Ebril y 27ain mae'r gala nesaf yn cael ei chynnal yn Harlech, am 13:00. Os oes gennych ddiddordeb mewn cadw amser, mae yna gwrs i ddau berson o bob tim i gymryd rhan mewn hyfforddiant 'cadwyr amser' am awr cyn y gala yn Harlech! Bydd gwaith ysgrifeneig i'w gwblhau yn ogystal a chadw amser yn y gala yn y prynhawn. Ni fydd angen talu am yr hyfforddiant!! Gadewch i Anna neu Carys wybod os oes gennych ddiddordeb.

Os y cewch lythyr yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y gala, gadewch i ni wybod yn syth bin os na allwch gymryd rhan!!!!!

Bydd sesiynnau hyfforddi yn parhau drwy'r gwyliau Pasg


23/02/2008 Bydd y gala nesaf yn cael ei chynnal yng Nghanlfan Glaslyn, Porthmadog ar ddydd Sadwrn, Mawrth 15fed. Bydd yn decharu am 13:00 felly cofiwch gyrraraedd yn ddigon cynnar y gynhesu fyny.

Mae rhest o'r tim ar y wefan o dan Hyfforddiant. Pob lwc ichi gyd!!


PWYSIG!!!! Gan na all 11 aelod o'n tim gymryd rhan yn y gala yn Nhywyn ddydd Sadwrn, rydyn wedi cymryd y cam digalon o dynnu'n nol. Diolch i bawb a fuasai wedi gallu dod. Os oes gan rhywun rif ffon i Hari Lloyd, plis ffoniwch ni ar 01758 721665. (Rydym wedi ceisio ei ffonio ond heb lwc!)



Cynhelir y gala nesaf yn Nhywyn - ar y 9fed o Chwefror - dydd Sadwrn - am 15:00. Bydd y tim yn debyg i'r un oedd yn cymryd rhan ym Mhorthmadog - er fod rhai nofwyr wedi newid grwp o ran oedran. Mae'r tim ar y wefan o dan Canlyniadau Sesiynau Hyfforddi.

Gadewch i ni wybod os na allech fynychu'r gala, neu angen 'tacsi' yno!


Cynhelir y Gala nesaf yn Harlech ar Ionawr 27ain, am 13:00. Yr union dim a fu yn Mhorthmadog fydd yn cymryd rhan. Os na allwch ddod, cysylltwch a ni cyn gynted a phosib - hefyd os oes gennych broblem trafnidiaeth


Gala Porthmadog: diolch i bawb o'r nofwyr a'u rhieni a wnaeth ymdrech i fynychu'r gala. Yn anffodus, tua 14:30 cafwyd problemau gyda'r trydan - felly, ymddiheiriadau i bawb!

Os y cewch lythyr i'ch gwahodd i nofio mewn gala, a wnewch adael i ni wybod yn syth os na allech ddod. Diolch!Italic text

Hydref 26ain 2007 - Cystadleuaeth Dylunio Logo

Gwahoddir holl aelodau'r clwb i ddylunio logo erbyn dydd Gwener, 09fed o Dachwedd 2007 - bydd pleidlais i ddewis yr ennillydd. Defnyddir y logo newydd yma ar grysau T a chapiau'r clwb

Hydref 26, 2007 Cyfarfod Rhieni

Cynhelir cyfarfod rhieni nos Wener ar ol y sesiwn hyfforddi. (Cofnodion Llawn)

Rydym yn bryderus am bellter rhai o'r rasus yn y gala ddiwaethaf. Bydd Martin yn ysgrifennu i Reolwr Nofio Cyngor Gwynedd Mae angen hefyd i rieni ysgrifennu llythyrau cefnogol wedi ei cyfeirio at Brian Evans yng Nghyngor Gwynedd a'u dychwelyd i'r Ganolfan Hamdden

Rydym am brynu capiau a chrysau T i'r clwb efo'r logo newydd

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ol y sesiwn hyfforddi nos Wener nesaf, 09/11/07

Hydref 14, 2007 Hyfforddiant Ychwanegol

Mae Martin a Chris wedi rhoi noson arall o'u hamser er mwyn cynnal sesiwn hyfforddi ychwanegol ar nos Fercher rhwng 7 ac 8. Rydym yn erfyn arnoch i gefnogi'r seiwn yma. Hoffwn hefyd eich hysbysu nad oes genym ond dwy lon ar gyfer y seswin yma felly dim ond nofwyr sydd wedi bod yn nofio mewn gala sydd yn cael gwadd i gymryd rhan. Gall hyn newid yn y dyfodol. Ar hyn o bryd byddwn yn canolbwyntio ar dechneg.

Personal tools